Mae’r Alban a gweddill gwledydd Prydain ar “ddau lwybr gwleidyddol gwahanol”, yn ôl Nicola Sturgeon.
Ar ôl disgrifio’r ras am arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol yn “sioe arswyd”, mae Prif Weinidog yr Alban wedi nodi sut y mae hi’n gweld ei gwlad hi a gweddill ynys Prydain yn mynd “yn gynyddol” i gyfeiriadau gwahanol o ganlyniad i Brexit.
Wrth annerch y Ganolfan Bolisi Ewropeaidd ym Mrwsel, dywedodd fod angen i bobol yr Alban gael “dewis” cyn y bydd Brexit yn digwydd.
“Mae angen inni wynebu’r posibilrwydd mai bod yn annibynnol a llunio ein dyfodol ein hunain yw’r ymateb gorau,” meddai Nicola Strugeon.
Ychwanegodd fod yr Alban yn awyddus i aros yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd, a hynny am resymau amgenach na dim ond masnach a phobol.
“Rydyn ni hefyd eisiau cyfrannu syniadau a thalentau’r Alban tuag at yr heriau hynny sy’n cael eu rhannu ar draws Ewrop, ac i gynnal a chadw ein gwerthoedd.”
Yn ystod ei hymweliad â Brwsel, mae disgwyl i Nicola Sturgeon hefyd gyfarfod â Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Jean-Claude Juncker.