Fydd yna ddim un lle gwag ar lyfrau deintyddion yn Portsmouth, wedi i dair syrjeri gau yn y ddinas.

Mae cwmni Colosseum Dental wedi cyhoeddi ei fod yn cau tri practis, gan roi nifer o bobol ar y clwt a gadael 20,000 o bobol heb ddeintydd NHS.

Fe ddaw’r cyhoeddiad wrth i wefan yr NHS ar gyfer yr ardal ddangos nad oes yr un lle gwag ar gyfer cleifion newydd yn Portsmouth – ac mai yn Gosport, daith fferi awr i ffwrdd yn Havant, y mae’r llefydd gwag agosaf.