Mae dynes 55 oed wedi marw ar ôl iddi gael ei tharo gan fellten wrth gerdded yn ucheldir yr Alban.

Roedd hi’n cerdded ger Glencoe gyda dynes arall pan gafodd ei tharo.

Cafodd y ddwy eu cludo i’r ysbyty yn Fort William, lle bu farw’n ddiweddarach.

Mae’r ddynes arall mewn cyflwr sefydlog.