Fe fydd staff glanhau a chynnal a chadw’r Swyddfa Dramor yn mynd ar streic pum diwrnod yr wythnos nesaf yn sgil anfodlonrwydd ynglŷn â thâl.

Bydd aelodau o’r undeb Gwasanaethau Masnachol a Chyhoeddus, sy’n cael eu cyflogi gan y cwmni contractio, Interserve, yn cychwyn gweithredu’n ddiwydiannol ar ddydd Llun (Mehefin 10).

Yn ôl yr undeb, dyw staff ddim wedi cael eu talu ers Ebrill 28 oherwydd newidiadau i ddyddiadau talu.

Mae trafodaethau rhwng yr undeb a’r cyflogwr wedi methu, felly mae’r gweithwyr, sy’n rhai o dramor, gan fwyaf, wedi penderfynu bwrw ymlaen â’r streic.

“Mae’r streic hwn yn dangos cryfder ein haelodau i wrthsefyll y contractwr sy’n gwrthod cydnabod yr undeb a thalu’r cyflog cywir ar amser.

“Rydym yn dal i fod yn agored am drafodaethau er mwyn datrys y materion pwysig hyn. Ond dylai penaethiaid Interserve wybod bod ein haelodau yn barod i streicio ac yn benderfynol o ennill.”