Fe gafodd bachgen yn ei arddegau ei feddwi a’i dreisio mewn cartref plant oedd yn cael ei redeg gan urdd grefyddol yn yr Alban. Dyna y mae ymchwiliad i achosion o gam-drin wedi’i glywed yr wythnos hon.

Mae’r dioddefwr, sydd bellach yn ei 60au, yn dweud ei fod yn credu iddo gael cyffuriau hefyd tra’n byw yng nghartref St Ninian yn Fife yn y 1970au.

Mae pedwerydd cyfnod yr ymchwiliad yng Nghaeredin ar hyn o bryd yn edrych i mewn i honiadau yn erbyn y cartref a oedd yn cael ei redeg gan y Christian Brothers.

Yn ôl y dyn, sy’n cael ei adnabod dan y ffugenw ‘John’, roedd tua 14 oed pan gafodd ei gam-drin. Mae’n disgrifio’r lle fel un “tywyll” er ei fod wedi gobeithio y byddai’n mwynhau byw yno.

“Roedd yna awyrgylch wael yn y lle,” meddai ‘John’ wedyn.