Mae’r Swyddfa Gartref wedi cytuno i glustnodi rhagor o arian i chwilio am Madeleine McCann.
Fydd yr union ffigwr ddim yn cael ei gadarnhau tan fis Hydref, ond mae lle i gredu ei fod o gwmpas £300,000 sef y swm a gafodd ei glustnodi yn 2018-19.
Bydd y cyfnod presennol yn dod i ben ar Fawrth 31 y flwyddyn nesaf yn dilyn cais gan Heddlu Llundain.
Mae’r arian ar gael i’r heddlu pan fo costau uwch nag arfer ynghlwm wrth ymchwiliad.
Y cefndir
Fe aeth Madeleine McCann ar goll tra ar wyliau gyda’i theulu yn Portiwgal ym mis Mai 2007.
Cafodd ymchwiliad ei gynnal gan Heddlu Llundain yn 2013 ar ôl i heddlu Portiwgal fethu â chanfod atebion.
Mae’r ymchwiliad wedi costio £11.75m hyd yn hyn.