Mae cwestau wedi agor i farwolaethau dau frawd mewn eiddo yn Sheffield.
Bu farw Tristen Barrass, 13, a Blake Barrass, 14, o fewn 12 munud i’w gilydd yn yr ysbyty ar ôl i’r heddlu gael eu galw i ardal Shiregreen y ddinas ar Fai 24.
Mae eu mam, Sarah Barrass, 34, a’u hewythr Brandon Machin, 37, wedi’u cyhuddo o lofruddio’r brodyr.
Mae Brandon Machin hefyd wedi’i gyhuddo o geisio llofruddio dau blentyn arall.
Byddan nhw’n mynd gerbron llys ar Dachwedd 12.
Does dim manylion o hyd ynghylch sut y bu’r ddau frawd farw, ond mae’r heddlu’n dweud na chawson nhw eu saethu.