Bydd Llywodraeth Prydain yn “ystyried yn ofalus” y pryderon sydd gan yr Unol Daleithiau ynghylch cynnwys cwmni Huawei yn y bwriad i greu rhwydwaith 5G, yn ôl yr Ysgrifennydd Tramor.
Daw sylwadau Jeremy Hunt yn ystod ymweliad tridiau yr Arlywydd Donald Trump â gwledydd Prydain, ac mae disgwyl i’r rhwydwaith 5G arfaethedig fod yn destun trafod rhyngddo â Theresa May.
Dywed yr Ysgrifennydd Tramor fod y Llywodraeth am wrando ar yr Unol Daleithiau yn sgil pryderon y gallai’r dechnoleg ar gyfer y rhwydwaith gael ei defnyddio ar gyfer “ysbïo”.
Ond mae Donald Trump wedi gwadu bod gan yr Unol Daleithau’r grym i atal unrhyw benderfyniad gan wledydd Prydain, ac mae’n ffyddiog na fydd y Llywodraeth yn gwneud “yr un penderfyniad a fydd yn effeithio ar y berthynas rhannu gwybodaeth” gyda’r Unol Daleithiau.
Dywedodd Jeremy Hunt wrth raglen Today ar BBC Radio 4 nad yw Llywodraeth Prydain wedi penderfynu pwy fydd yn gyfrifol am ddatblygu’r rhwydwaith 5G.
“Rydyn ni’n ystyried yn ofalus bob dim y mae’r Unol Daleithiau yn ei ddweud ynglŷn â materion hyn,” meddai.