Mae Ann Widdecombe wedi cael ei beirniadu ar ôl iddi ddweud y gallai gwyddoniaeth, ryw ddiwrnod, gynnig “ateb” i fod yn hoyw.
Dywed y gwleidydd, sydd bellach yn aelod o Blaid Brexit, fod yna adeg pan na fyddai pobol yn credu y gallai dynion ddod yn ferched ac y gallai merched ddod yn ddynion.
“Dydy’r ffaith ein bod ni’n meddwl nawr ei bod yn amhosib i bobol newid eu rhywioldeb ddim yn golygu na all gwyddoniaeth gynnig ateb [i fod yn hoyw] ar ryw adeg,” meddai ar raglen Sophy Ridge on Sunday.
Mae ei sylwadau wedi cael eu disgrifio fel rhai “ffiaidd” gan ymgyrchwyr LGBT, sy’n dweud nad yw “bod yn hoyw yn afiechyd i’w wella”.
Mae’r gwleidydd annibynnol Nick Boles yn awgrymu y dylid dod o hyd i ateb i “gulfarn” Ann Widdecombe.