Mae cartref yr awdur J M Barrie, a ysgrifennodd lyfrau Peter Pan, wedi cael ei adfer fel canolfan genedlaethol straeon a llenyddiaeth plant yr Alban.
Cafodd Moat Brae yn Dumfries ei agor yn swyddogol heddiw gan yr actores Joanna Lumley, ac Ysgrifennydd Diwylliant yr Alban, Fiona Hyslop.
Dyma lle’r oedd J M Barrie a’i ffrindiau yn yr 1870au yn chwarae’r gemau a’i ysbrydolodd i ysgrifennu am Peter Pan yn ddiweddarach.
Y gobaith yw y bydd y ganolfan yn denu dros 30,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.
“Mae Moat Brae yn profi y gall breuddwydion ddod yn wir,” meddai Joanna Lumley.
“Mae gan blant a phobl ifanc o’r Alban a’r tu hwnt bellach le sydd wedi’i neilltuo i straeon a llenyddiaeth plant.
“Fe allan nhw ddod yma i chwarae, breuddwydio ac adeiladu eu dychymyg creadigol, yn union fel y gwnaeth J M Barrie.”