Mae artist sy’n gweithio llawer gyda phlant a phobol ifanc wedi galw ar i gyntedd y Senedd yng Nghaerdydd gael ei throi’n oriel i ddangos eu gwaith nhw.

Fe fyddai hynny’n dod â lliw a bywyd i’r adeilad ac yn dangos peth o’r gwaith da sy’n digwydd mewn ysgolion, yn ôl Haf Weighton o Benarth.

Mae gwaith o gynlluniau Ysgolion Creadigol Arweiniol Cymru wedi cael ei ddangos mewn orielau mawr yn Llundain, fel y Tate a’r Saatchi, ond ddim yng Nghymru, meddai.

Yr Eisteddfod yn ysbrydoli

Gweld arddangosfa cystadlaethau’r Urdd yn y cyntedd yn ystod yr Eisteddfod oedd wedi ysbrydoli Haf Weighton, a oedd yn un o feirniaid yr Ŵyl.

“Mae pobol o bob rhan o’r byd yn dod i weld yr adeilad yma; mae’n adeilad hardd ond mae’r cyntedd ei hun yn wag lawer o’r amser,” meddai.

“Mae’n gyfle i arddangos gwaith pobol ifanc – efallai cael arddangosfa gan ysgol wahanol yma bob mis. Mae’r Llywodraeth yn cefnogi’r cynlluniau hyn ond dyw’r gwaith ddim yn cael ei arddangos.

Denu

Yn ôl Haf Weighton, fe fyddai dangos gwaith plant yn denu rhieni a theulu a ffrindiau i’r Senedd.

Mae hi wedi gweithio gyda sawl ysgol yn rhan o’r prosiect Ysgolion Creadigol Arweiniol ac roedd hi wedi cynnwys peth o’r gwaith mewn arddangosfa ganddi hi yn oriel y Saatchi yn Llundain.