Mae dyn 48 oed wedi mynd gerbron llys i wynebu cyhuddiadau o lofruddio’i rieni oedrannus yn eu fflat yng ngogledd Llundain.
Mae Sergey Koudriavtsev wedi’i gyhuddo o lofruddio Tatiana Koudriavtsev, 68, a Vladimir Koudriavtsev, 69, yng ngogledd Kengsington.
Daeth yr heddlu o hyd i’w cyrff fore dydd Iau (Mai 23), ar ôl iddo fynd at yr heddlu o’i wirfodd.
Yn ystod gwrandawiad yn Llys Ynadon Westminster, cadarnhaodd y diffynnydd ei enw a’i gyfeiriad, yn ogystal â’r ffaith iddo gael ei eni yn Rwsia ond ei fod yn dod o Seland Newydd.
Wnaeth e ddim cyflwyno ple, ac fe gafodd ei gadw yn y ddalfa.
Bydd yn mynd gerbron yr Old Bailey ddydd Mawrth (Mai 28).