Mae’r ddwy blaid fawr Brydeinig wedi gwneud cyhoeddiadau i apelio at bleidleiswyr ‘gwyrdd’, gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn datgelu cynllun i roi £28m at greu canolfan batris ceir trydanol.
Y bwriad yw creu canolfan “o’r radd falena’” a fyddai, meddai’r Llywodraeth, yn gosod gwledydd Prydain ar reng-flaen y diwydiant.
Fe fydd yr Ysgrifennydd Busnes, Greg Clark, yn cyhoeddi heddiw bod yr arian yn mynd at gynllun Canolfan Ddiwydiannol Batri Gwledydd Prydain (UKBIC) yn Coventry.
“Chwyldro gwyrdd”
Yn y cyfamser, mae’r arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, wedi addo arwain “chwyldro diwydiannol gwyrdd,” os bydd yn Brif Weinidog.
Mae ei gynllun yn cynnwys ffitio paneli solar i filiwn o gartrefi incwm isel, gan helpu i leihau biliau i breswylwyr, mewn prosiect werth £1.75m.
“Drwy ganolbwyntio ar aelwydydd incwm isel byddwn yn lleihau tlodi tanwydd ac yn cynyddu cefnogaeth ar gyfer ynni adnewyddadwy,” meddai Jeremy Corbyn
Mae Llafur yn amcangyfrif y bydd ei pholisi yn creu 16,900 o swyddi ac yn arbed £7.1m tunnell o garbon deuocsid, sy’n cyfateb i gymryd pedair miliwn o geir oddi ar ffyrdd y Deyrnas Unedig.