Fydd dim ail refferendwm annibyniaeth yn yr Alban cyn 2021, yn ôl David Mundell.

Fe fu Ysgrifennydd yr Alban dan bwysau yn sgil Brexit i ymrwymo i refferendwm yn dilyn yr ymgais aflwyddiannus yn 2014.

Ond mae’n dweud y byddai cyflwyno arian newydd i’r Alban, neu “arian siocled Nicola Sturgeon”, yn “drychinebus”.

Roedd yn ymateb i Tommy Sheppard, Aelod Seneddol Dwyrain Caeredin, wrth iddo alw am roi’r hawl i bobol yr Alban benderfynu eu tynged eu hunain ar drothwy etholiadau Ewrop.

“Pe bai fy mhlaid yn ennill yr etholiad, ysgrifennydd gwladol, a fyddech chi wedyn yn rhoi’r gorau i atal Llywodraeth yr Alban rhag gallu ymgynghori â phobol am eu dyfodol eu hunain?” gofynnodd aelod seneddol yr SNP.

Wrth ateb, dywedodd David Mundell mai diben etholiad Ewrop yw “ethol aelodau seneddol o’r Alban i Senedd Ewrop am y cyfnod byrraf posib”.

Ond mae Deidre Brock, aelod seneddol yr SNP yng Ngogledd Caeredin a Leith, yn dweud bod Llywodraeth Prydain yn “ofni’r twf mewn cefnogaeth” i annibyniaeth yn yr Alban.

Ac mae Pete Wishart, un arall o aelodau seneddol y blaid yn Perth a Gogledd Sir Perth, yn dweud bod yr Alban wedi’i thynnu allan o’r Undeb Ewropeaidd “yn erbyn ei hewyllys.