Fe fydd etholiadau Senedd Ewrop y mis hwn yn cael eu trin fel ail refferendwm ar Brexit gan bobol llawr gwlad, yn ôl adroddiad newydd.

Yn ôl astudiaeth The UK in a Changing Europe, fe all y canlyniadau gael effaith pellach ar beth ddaw o’r.cytundeb thwng Ptydain a’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r etholiadau yn digwydd ar Fai 23 ar ôl i’r Prif Weinidog, Theresa May, fethu â llwyddo i gael San Steffan i gymeradwyo ei chytundeb ymadael.

Dywed cyfarwyddwr yr adroddiad, yr Athro Anand Menon, bod “eironi” yn y ffaith mai’r etholiadau hyn fydd yn denu’r sylw mwyaf.

“O ran yr Undeb Ewropeaidd ei hun, fe fydd yr etholiadau, yn amlwg, yn cael effaith ar gyfansoddiad Senedd Ewrop,” meddai.