Mae gwyddonwyr yn dweud y gallai triniaeth effeithiol ar gyfer HIV rwystro’r firws rhag cael ei drosglwyddo i bartner.
Roedd ymchwilwyr wedi cynnal profion ar 1,000 o gyplau hoyw gwrywaidd – un gyda HIV ac yn cymryd cyffuriau i drin y firws a’r llall ddim yn dioddef o HIV – ac ni chafodd y firws ei drosglwyddo dros gyfnod o wyth mlynedd.
Yn ôl arbenigwyr mae’n “neges rymus” a ddylai gael ei ledaenu er mwyn “mynd i’r afael a’r stigma a’r gwahaniaethu mae nifer o bobl gyda HIV yn ei wynebu.”
Mae’r astudiaeth wedi cael ei gyhoeddi yng nghylchgrawn meddygol The Lancet.