Mae protestwyr Extinction Rebellion yn targedu ardal ariannol Llundain gyda rhai yn gludo ei hunain i’r Gyfnewidfa Stoc fel rhan o’r protestiadau yn erbyn peryglon newid yr hinsawdd.
Ar hyn o bryd mae dau ddyn a pum dynes yn wedi gludo i’w gilydd ac i wal yr adeilad.
Arnynt mae arwyddion yn darllen “Argyfwng hinsawdd,” “Dywedwch y gwir,” a “Ni allwch fwyta arian”.
Gweithred yr ymgyrchwyr yn erbyn y diwydiant ariannol yw hi heddiw (dydd Iau, Ebrill 25) – maes y mae Extinction Rebellion yn dweud sy’n gyfrifol am ariannu dinistr hinsawdd y byd.
“Mae’r diwydiant ariannol yn gyfrifol am ariannu dinistr hinsawdd ac ecolegol ac rydym yn galw arnynt, y cwmnïau a’r sefydliadau sy’n caniatáu i hyn ddigwydd, i ddweud y gwir,” meddai llefarydd.
“Rydym yn galw ar y Llywodraeth i gymryd camau i ddatys yr argyfwng.”
Mae dros 1,000 o bobol wedi cael eu harestio yn ystod yr Extinction Rebellion wnaeth ddechrau ar Ebrill 15 gan dros 10,000 o swyddogion yr heddlu.
Yn ôl yr ymgyrchwyr fe fydd mwy o gamau “yn fan iawn,” cyn son y bydd seremoni gloi yn Hyde Park am 5yp.