Dengys arolwg fod traean pobol sy’n byw yn Lloegr wedi gwrthod arian Albanaidd gan gredu eu bod nhw’n ffug.
Roedd traean o’r 1,710 o bobol a holwyd yn credu fod y papurau yn ffug.
Dangosodd gwmni ymchwil Censuswide Scotland bapurau arian Bank yr Alban, Banc Brenhinol yr Alban a Banc Clydesdale i bobl.
Roedd traeon ohonyn nhw yn credu nad oedd y papurau bellach yn cael eu defnyddio.
Dywedodd bron i chwarter ohonyn nhw (23%) y bydden nhw yn gwrthod yr arian.
Yn gynharach y mis hwn fe gyflwynodd AS Rhyddfrydwyr Democrataidd Alistair Carmichael Fesur Aelodau Preifat mewn ymgais i’w wneud yn gyfreithlon for yn rhaid derbyn papurau banciau Albanaidd ar hyd a lled y Deyrnas Gyfunol.