Dywed yr heddlu yng Ngogledd Iwerddon fod rhagor nag un person wedi bod a rhan mewn “cynllwyn llofruddiaeth” pan saethwyd yn farw newyddiadurwraig ifanc.
Cafodd Lyra McKee, 29, ei saethu yn ei phen yn ystod terfysg yn Derry nos Iau.
Rhoddodd yr heddlu y bai ar y New IRA gan honni mae eu bwriad oedd lladd swyddogion.
Dywedodd prif gwnstable Heddlu Gogledd Iwerddon Stephen Martin fod calonnau pobol yn y ddinas yn torri.
Meddai: “Mae nhw wedi cael eu siomi yn anferthol gan y ddelwedd o’u dinas ledled y byd heddiw.”
Fe wnaeth o amddiffyn y penderfyniad i lansio gweithrediad yn gynharach ddydd Iau oedd wedi ei anelu at geisio rhwystro cynlluniau ar gyfer trais “oedd ar fin digwydd”, meddai.
Ond dyna yn union ddigwyddodd yn fuan wedyn.
Meddai: “Roedd yr heddlu yn yr ystad neithiwr yn gweithredu’n gyfreithlon, yn ceisio rhwystro trais oedd ar fin digwydd yn y dyfodol.
“Mae’r cyfrifoldeb llawn a llwyr am ladd Lyra McKee’s death gyda’r mudiad a anfonodd rhywun allan gyda gwn.”
Ychwanegodd ei fod wedi edrych ar gudd-wybodaeth ac wedi argyhoeddi ei hun ynglŷn â’r brys a’r angen i gynnal y gweithredu.