Mae athrawon yng ngwledydd Prydain yn ystyried hunan niweidio, a hyd yn oed gadael eu swyddi, o ganlyniad i gael eu bwlio o fewn y gweithle, meddai adroddiad newydd.
Yn ôl Undeb Athrawon gwledydd Prydain mae pedwar ym mhob pum athro wedi cael ei fwlio dros y flwyddyn ddiwethaf.
Allan o 1,995 roedd 80% wedi profi bwlio o fewn y gweithle.
Dywed yr undeb fod bwlio yn difetha bywydau athrawon gan adael athrawon i deimlo’n isel, i orbryderu, i gael diffyg hyder ac yn troi at help proffesiynol, cyffuriau neu alcohol.
Roedd y mwyafrif o’r bwlio wedi cael ei wneud gan y prifathrawon, arweinwyr a rheolwyr, meddai’r adroddiad.
Ystadegau
– 52% wedi profi iselder oherwydd bwlio
– 45% wedi mynd i ymweld â doctor
– 41% yn honni fod bwlio yn effeithio ar ansawdd eu dosbarthiadau
– 18% wedi cael eu rhoi ar gyffuriau
– 17% wedi troi at alcohol