Mae dyn a frathodd dwll yng nghlust heddwas wrth iddo ei arestio, wedi cael ei garcharu.

Fe fu’n rhaid i’r plismon gael llawdriniaeth wedi’r ymosodiad gan Daniel Ward, 26, yn Runcorn ar Ragfyr 14.

Fe gyfaddefodd Daniel Ward iddo achosi niwed bwriadol, ac fel blediodd yn euog i gyhuddiadau o ymwrthod â chael ei arestio, ac o amharu ar y drefn gyhoeddus.

Mae hefyd wedi pledio’n euog i ladrata, ac o fod ag arf peryglus yn ei feddiant mewn man cyhoeddus. Roedd dau fachgen yn eu harddegau wedi colli eu beics ar ôl cael eu bygwth â chyllell mewn ffordd dan-ddaear ym mis Ionawr.

Mae Daniel Ward wedi’i ddedfrydu i 13 blynedd o garchar, gyda gorchymyn i fod ar drwydded am bedair blynedd arall at hynny.