Mae dyn wedi’i gadw yn y ddalfa o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl ar ôl gyrru at dorf o bobol y tu allan i Lysgenhadaeth yr Wcráin yn Llundain.

Cafodd y dyn 40 oed ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio swyddogion ar ôl gyrru car atyn nhw’n fwriadol ddoe (dydd Sadwrn, Ebrill 13).

Bydd e’n derbyn triniaeth yn yr ysbyty yn dilyn y digwyddiad yn Holland Park yng ngorllewin Llundain.

Mae disgwyl i’r Gyfarwyddiaeth Safonau Proffesiynol ymchwilio ar ôl i’r heddlu saethu ato gyda gwn Taser.