Mae dyn yn e 20au wedi marw ar ôl cael ei drywanu a’i saethu yn Newham, dwyrain Llundain.

Bu rhaid i’r heddlu gael eu galw ar ôl i’r dyn gael ei ymosod ar Church Road, Manor Park, ychydig cyn 9.30yh neithiwr (nos Lun, Ebrill 9).

Dywed Scotland Yard bod swyddogion yr heddlu wedi cyrraedd y stryd a dod o hyd i’r dyn yn dioddef o anafiadau cyllell a bwled.

Er ymdrechion meddygon, bu farw’r dyn yn y fan a’r lle.

Cafodd mwy o heddlu eu galw i’r ardal neithiwr wrth i’r archwiliad ddechrau.

Does dim arwydd fod y nifer troseddau cyllell yn Llundain yn arafu. Mae 20 ohonyn nhw wedi’u cofnodi ers dechrau’r flwyddyn.