Mae dau ddyn yn y llys wedi eu cyhuddo o drywanu dyn arall, 25, i farwolaeth ger Regent’s Park yng nghanol dinas Llundain.

Fe ymddangosodd Kamal Hussain, 21, ac Yosif Ahmed, 18, gerbron Llys Ynadon Westminster heddiw (dydd Iau, Ebrill 4) wedi eu cyhuddo o lofruddio.

Bu farw Zahir Visiter union wythnos yn ôl (Mawrth 28) yn Cunningham Place, St John’s Wood, am tua 6.15yh.

Clywodd y llys fod Zahir Visiter wedi ei drywanu pedair gwaith – dwywaith yn ei fron ac unwaith yn ei gefn a’i fraich.

Cafodd y ddau sy’n cael eu hamau o gyflawni’r weithred eu dal gan yr heddlu ddoe, ac fe fyddan nhw’n aros yn y ddalfa tan ddydd Llun (Ebrill 8), wrth i’r achos gael ei gynnal yn yr Old Bailey.