Mae’r rheithgor yn achos llys David Duckenfield, prif blismon Hillsborough, wedi methu â dod i benderfyniad.

Daw’r achos i ben yn dilyn y cyhoeddiad, ond mae’r erlynwyr yn awyddus i weld y dyn oedd yn gyfrifol am weithrediadau’r heddlu ar ddiwrnod y trychineb yn Sheffield yn 1989 yn sefyll ail brawf.

Roedd y dyn 74 oed wedi’i gyhuddo o ddynladdiad trwy esgeulustod 95 o gefnogwyr Lerpwl.

Cawson nhw eu gwasgu i farwolaeth yn ystod gêm gyn-derfynol Cwpan FA Lloegr rhwng Lerpwl a Nottingham Forest ar Ebrill 15, 1989.

Dywedodd y barnwr ddydd Llun y byddai’n fodlon derbyn barn mwyafrif o 10 aelod o’r rheithgor, ar ôl iddyn nhw fethu â dod i reithfarn unfrydol.

Fe fu David Duckenfield yn gwadu’r holl gyhuddiadau yn ei erbyn.

Mae Graham Mackrell, cyn-Ysgrifennydd Clwb Pêl-droed Sheffield Wednesday, wedi’i gael yn euog o fethu â gweithredu ar ei ddyletswydd yn unol â gofynion Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle.