Mae heddlu yn ymchwilio i lofruddiaeth dyn yn ei 20au a gafodd ei drywanu i farwolaeth yn Llundain neithiwr (nos Lun, Ebrill 1).

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal Kentish Town yng ngogledd-orllewin y ddinas, tua 8.30yh, ond roedd y gŵr ifanc eisoes wedi marw.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ar yr un diwrnod ag yr oedd Prif Weinidog Prydain, Theresa May, yn cynnal cynhadledd ar droseddau yn ymwneud â chyllyll yn 10, Stryd Downing.

Roedd y gynhadledd wedi’i hysgogi gan ddyddiau o drais mewn gwahanol rannau o Lundain – nifer o achosion o drywanu yn Edmonton rhwng nos Sadwrn a bore Sul; yn ogystal â marwolaeth dyn 40 oed wrth lyw ei gar yn Clapham yn ne-orllewin y ddinas.