Mae Aelod Cynulliad a gafodd ei wahardd o Blaid Cymru flwyddyn yn ôl, yn dweud iddo dreulio deuddeg mis “cynhyrchiol iawn” yn cynrychioli pobol Canol De Cymru ac yn hybu’r achos cenedlaetholgar yng Nghaerdydd.

Mae Neil McEvoy yn cadarnhau ei fod bellach wedi gwneus cais i ail-ymuno â’r blaid, a’i fod â’i lygad ar sedd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yng Ngorllewin Caerdydd yn etholiadau’r Cynulliad yn 2021.

Roedd Neil McEvoy wedi cytuno i gadw draw o gynhadledd wanwyn Plaid Cymru yn ninas Bangor ychydig dros wythnos yn ôl, er mwyn peidio â thynnu sylw ato’i hun na gwneud drwg i’r blaid.

“Mae’r deuddeg mis diwethaf wedi bod yn gyfnod cynhyrchiol iawn i mi,” meddai. “Rwy’ i wedi dal ati i gefnogi ymgyrchoedd sydd wedi cael sylw mawr, ac ymgyrchoedd sydd wedi’u cefnogi gan fy mhlaid.

“Mi chwaraeais i ran flaenllaw yn is-etholiad Elai yng Nghaerdydd, yn cynllunio ac yn cyfarwyddo’r ymgeisydd llwyddiannus a gipiodd y sedd i Blaid Cymru, yng nghanol etholaeth y Prif Weinidog, Mark Drakeford.

“Ond yn bwysicach na dim,” meddai wedyn, “mae hi’n glir nawr fod gan Blaid Cymru gyfle go iawn i fod y blaid fwyaf wedi etholiad nesaf y Cynulliad. Pe baen ni’n gallu ennill Gorllewin Caerdydd, dyna i chi un sedd yn rhagor tuag at wneud Adam Price yn Brif Weinidog…

“Mae gen i’r proffil, mae gen i’r tîm a’r gefnogaeth ariannol i allu delifro. Dyma gyfle na all y blaid fforddio ei golli.”