Mae disgwyl i filoedd o feicwyr orymdeithio trwy ganol Llundain yr wythnos nesaf er mwyn protestio yn erbyn y ffordd mae milwyr Prydeinig yn cael eu herlyn am eu gweithredoedd yng Ngogledd Iwerddon ar ddechrau’r 1970au.

Mae disgwyl i un milwr gael ei gyhuddo o ladd dau berson yn ystod digwyddiad sy’n cael ei alw’n ‘Bloody Sunday’, pan saethodd milwyr Prydeinig ar dorf o bobol yn nhref Derry yn 1972.

Mae rhai o berthnasau’r 13 a gafodd eu lladd wedi bod yn ymgyrchu am gyfiawnder ers blynyddoedd.

Ond mae rhai cyn-filwyr yn anhapus bod camau cyfreithiol yn cael eu cymryd heddiw, ddegawdau ers y digwyddiad a oedd yn rhan o gyfnod yr Helyntion yng Ngogledd Iwerddon.

Beirniadu Llywodraeth Prydain

“Dyw ein gorymdaith ddim wedi ei anelu at y dioddefwyr, ond tuag at Lywodraeth Prydain,” meddai Harry Wragg, un o drefnwyr y gorymdaith sy’n cael ei alw’n ‘Rolling Thunder’.

“Mae ein cynnen gyda’r Llywodraeth, ac nid dioddefwyr ‘Bloody Sunday’ nac unrhyw ddigwyddiad arall…

“Lle maen nhw’n cael gafael ar yr holl dystiolaeth? Pam mae Llywodraeth Prydain yn gadael i hyn ddigwydd?”

Bydd y protestwyr orymdeithio trwy ddinas Llundain ar Ebrill 12, ac mae Harry Wragg yn mynnu bod 4,000 o feicwyr am fod yn rhan o’r digwyddiad.