Mae Theresa May wedi galw cyfarfod pump awr â’i Chabinet heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 2) er mwyn ceisio dod o hyd i ffordd ymlaen gyda Brexit.

Daw’r cyfarfod ar ôl i Aelodau Seneddol bleidleisio yn erbyn pedwar o opsiynau yn Nhŷ’r Cyffredin neithiwr, gyda phob un opsiwn wedi methu â chael mwyafrif.

Yn dilyn diwrnod dramatig yn y Senedd ddoe (Ebrill 1), fe gyhoeddodd yr Aelod Seneddol Ceidwadol, Nick Boles, a gyflwynodd gynnig am fargen Brexit sy’n debyg i drefniant Norwy, ei fod yn gadael ei blaid.

Roedd yn feirniadol o’r Ceidwadwyr am fethu â chyfaddawdu ar adael yr Undeb Ewropeaidd.

Y Cabinet

Bydd tair awr cyntaf y cyfarfod rhwng Theresa May a’i gweinidogion yn cael ei gynnal heb weision sifil.

Mae hyn wedi arwain rhai aelodau o’r Blaid Geidwadol i awgrymu y gall y Prif Weinidog ddewis galw etholiad cyffredinol.

Ond mae eraill yn credu y bydd yr amser yn cael ei dreulio er mwyn rhoi cyfle i’r ddwy garfan Brexit fynegi eu hamheuon.

Ar ôl y methiant i sicrhau cefnogaeth i unrhyw opsiwn Brexit yn y Senedd, mae yna fwy o beryg y bydd gwledydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb ar Ebrill 12.

Y ffordd ymlaen?

Dywedodd yr Ysgrifennydd Brexit, Stephen Barclay, fod angen i’r Llywodraeth gyflwyno “cynnig dilys” ynghylch y ffordd ymlaen.

Ond mae wedi ychwanegu bod yna dal cyfle i gymeradwyo bargen Brexit Theresa May … os yw Aelodau Seneddol yn pleidleisio yr wythnos hon.

“Os yw’r Tŷ yn cymeradwyo’r fargen yr wythnos hon, yna mae dal i fod yn bosib i osgoi cynnal yr etholiadau Ewropeaidd,” meddai.