Mae hofrennydd yn cludo pump o bobol wedi plymio afon yn Efrog Newydd yn fuan ar ôl cychwyn ei daith, gan ladd un o’r teithwyr ac anafu tri o bobol eraill.
Mae’n debyg bod y ddynes fu farw yn dod o Brydain a’i bod wedi bod yn ymweld â’r ddinas gyda’i theulu i ddathlu ei phen-blwydd yn 40 oed.
Dywed yr heddlu ei bod wedi ei dal yn gaeth tu fewn i’r hofrennydd ar ôl iddo suddo yn y dŵr. Roedd nofwyr tanddwr yr heddlu wedi darganfod ei chorff rhyw 90 munud ar ôl y ddamwain.
Fe gyrheaddodd y gwasanaethau brys ychydig eiliadau ar ôl y ddamwain a darganfod yr hofrennydd â’i ben i lawr yn y dŵr. Roedd y peilot, Paul Dudley, a tri o’r teithwyr eraill yn arnofio yn y dŵr. Fe gawson nhw eu cludo i’r ysbyty.
Dathlu penblwydd
Roedd y teithwyr yn ffrindiau â theulu’r peilot – Paul a Harriet Nicholson, gŵr a gwraig o Brydain sy’n byw ym Mhortiwgal, merch y wraig Sonia Marra, hefyd o Brydain fu farw yn y ddamwain, a ffrind y ferch, Helen Tamaki o Seland Newydd. Roedd Sonia Marra a’i ffrind yn byw yn Sydney, Awstralia.
Roeddan nhw wedi cwrdd yn Efrog Newydd i ddathlu pen-blwydd Sonia Marra a Mr Nicholson, 71.
Mae’n debyg bod yr hofrennydd wedi mynd i drafferthion yn fuan ar ôl cychwyn ar ei daith ac yn ceisio mynd yn ôl i’r hofrenfa pan blymiodd i’r dŵr ger Manhattan.