Steve Jobs
Mae Apple wedi datgelu’r iPhone newydd sydd i gael ei ryddhau ganol y mis.
Bydd yr iPhone 4S yn mynd ar werth ym Mhrydain ar 14 Hydref – yr un diwrnod ag yn yr Unol Daleithiau.
Wrth lansio’r teclyn newydd o’u pencadlys yng Nghaliffornia neithiwr, dywedodd uwch ddirprwy lywydd Apple, Phil Schiller, fod y ffôn newydd yn edrych yn debyg iawn i’r iPhone 4, ond bod y dechnoleg yn torri tir newydd.
“Peidiwch a chael eich twyllo,” meddai, “tu fewn mae popeth yn wahanol.”
O ran golwg, mae’r iPhone 4S yn debyg iawn i’w ragfleynydd, gyda chlawr a chefn gwydr, a bandyn dur yn mynd o gwmpas yr ochrau. Ond mae tipyn o wahaniaeth yn y dechnoleg.
Mae gan yr iPhone 4S sglodyn A5 newydd, sy’n caniatau defnyddio graffeg llawer yn gynt ar gyfer gemau, a lawrlwytho data dwywaith yn gynt.
Mae gan y ffôn hefyd gamera wyth megapixel, fel ei ragflaenydd, ond gyda phump lens yn hytrach na phedwar, sydd i fod i roi llun cliriach. Mae hi nawr hefyd yn bosib dal clipiau fideo HD gyda’r iPhone.
‘Trawsnewid y ffordd o ddefnyddio ffôn symudol’
Ond uchafbwynt yr iPhone 4S yw’r dechnoleg adnabod llais newydd. Technoleg a allai, yn ôl yr arbenigwr Ernest Doku o uSwitch, “drawsnewid y modd rydyn ni’n defnyddio’n ffonau.”
Enw’r rhaglen adnabod llais newydd yw Siri, ac fe gafwyd arddangosfa ohono yn y lansiad neithiwr gan un arall o uwch ddirprwy lywyddion y cwmni, Scott Forstall, gan ddangos sut y gall defnyddwyr anfon cwestiynau i’r ffôn er mwyn cael atebion.
Yn ôl Apple, mae’r ffôn yn deall iaith a chynnwys cwestiynau defnyddwyr er mwyn rhoi atebion am bethau fel ymholiadau am y tywydd, dyddiadur y defnyddiwr, a’r marchnadoedd stoc.
Ymdopi heb Jobs
Cafodd y lansiad, a gynhaliwyd ym mhencadlys y cwmni yng Nghaliffornia, ei ddarlledu drwy linc fideo i’r siop yn Covent Garden, Llundain neithiwr.
Dyma lansiad mawr cyntaf y cwmni ers blynyddoedd heb i Steve Jobs fod wrth y llyw. Fe gymerodd y Prif Weithredwr newydd, Tim Cook, yr awennau ym mis Awst, ar ôl i Steve Jobs ymddiswyddo oherwydd ei iechyd.
Mae disgwyl i’r iPhone 4S werthu’n dda, gan ddenu’r ciwiau toriad gwawr yn ôl i’r siopau, fel a welwyd gyda’r iPhone 4 pan aeth hwnnw ar werth fis Mehefin diwethaf.
Bydd y ffôn newydd 64gb yn mynd ar werth am $399 (£260), y ffôn 32gb am $299 (£195), a’r 16gb am $199 (£130).