Dylai seiciatryddion ystyried effaith y cyfryngau cymdeithasol ar iechyd meddwl plant a phobol ifanc wrth asesu problemau iechyd meddwl, yn ôl arbenigwyr.
Mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yn dweud y dylid gofyn i blant a phobol ifanc am eu defnydd o dechnoleg, gyda chyswllt mwy amlwg erbyn hyn rhwng y defnydd o’r we a salwch iechyd meddwl.
Mae’r Coleg yn galw am astudiaeth o faint o amser mae pobol ifanc yn ei dreulio ar y we.
Ddechrau’r mis, dywedodd aelodau seneddol y gellid ystyried y gor-ddefnydd o gyfryngau cymdeithasol yn afiechyd, ac y dylai Ofcom gael rheoleiddio gwefannau megis Facebook, Twitter ac Instagram.
Mae pryderon penodol am y deunydd sydd ar gael ar y we yn ymwneud â hunan-niweidio a hunanladdiad, ar ôl i Molly Russell, merch 14 oed, ladd ei hun yn 2017 gyda chymorth deunydd ar Instagram.
Mae’r Coleg yn awgrymu na ddylai plant ddefnyddio technoleg am yr awr olaf cyn mynd i’r gwely nac wrth fwyta.
‘Niweidiol mewn rhai sefyllfaoedd’
“Er ein bod yn cydnabod nad yw’r cyfryngau cymdeithasol na thechnoleg yn brif yrwyr salwch meddwl ymhlith pobol ifanc, rydym yn gwybod eu bod yn rhan bwysig o’u bywydau ac y gallan nhw fod yn niweidiol mewn rhai sefyllfaoedd,” meddai Dr Bernadka Dubicka o Goleg Brenhinol y Seiciatryddion.
“Fel clinigwr ar y rheng flaen, rwy’n gweld pobol ifanc yn aml sydd wedi niweidio’u hunain yn fwriadol ar ôl trafod technegau hunan-niweidio ar-lein.
“Rydym hefyd yn canfod fod rhai pobol ifanc yn adrodd iddyn nhw gael argymhelliad o gynnwys niweidiol; er enghraifft, dolenni i wefannau sy’n annog colli pwysau neu dangos arwyddion o hunan-niweidio ar ôl bod yn chwilio am gynnwys tebyg a chlicio arno dim ond unwaith o’r blaen.”
Wrth ymateb i’r pryderon, mae Llywodraeth Prydani yn dweud bod Papur Gwyn ar y gweill a fydd yn amlinellu’r cyfrifoldeb ar wefannau cymdeithasol a beth fydd yn digwydd pe baen nhw’n esgeuluso’u cyfrifoldebau.