Fe fydd pleidiau llai yr wrthblaid, gyda Phlaid Cymru yn eu plith, yn cyfarfod ag arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 19) er mwyn trafod ail refferendwm ar Brexit.

Daw ar ôl i Lefarydd Tŷ’r Cyffredin, John Bercow, wrthod caniatáu trydedd pleidlais ar gytundeb Brexit y Prif Weinidog hyd nes ei bod hi’n gwneud “newidiadau sylweddol” iddo.

Mae’n debyg bod Jeremy Corbyn wedi cael gwahoddiad i ymuno ag arweinwyr yr SNP, Democratiaid Rhyddfrydol, Plaid Cymru a’r Blaid Werdd y prynhawn ddoe, ond methodd â bod yn bresennol.

Ar drothwy’r cyfarfod heddiw, dywed y pedair plaid mewn datganiad ar y cyd fod gwledydd Prydain yn wynebu “argyfwng sylweddol” wrth i San Steffan barhau i fod yn rhanedig.

Maen nhw hefyd yn dweud mai’r “ffordd orau a democrataidd ymlaen” yw cynnal ail refferendwm ar Brexit, gydag aros yn yr Undeb Ewropeaidd yn opsiwn i bleidleiswyr.

Mae disgwyl i Jeremy Corbyn hefyd gwrdd ag aelodau o’r Grŵp ‘Norwy Plws’ mewn cyfarfod gwahanol yn ystod y dydd.