Mae disgwyl i Theresa May gyfarfod â’i chabinet heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 19), ddiwrnod ar ôl i Lefarydd Tŷ’r Cyffredin wrthod caniatáu trydedd pleidlais ar ei chytundeb Brexit.

Mae John Bercow wedi rhoi ergyd arall i gynlluniau Brexit y Prif Weinidog ar ôl iddo ddweud bod angen “newidiadau sylweddol” ar y cytundeb cyn bod Aelodau Seneddol yn cael pleidleisio ar y mater unwaith eto.

Roedd Theresa May yn gobeithio cael sêl bendith Tŷ’r Cyffredin cyn i arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd gyfarfod ddydd Iau (Mawrth 21).

Mae un o weinidogion Llywodraeth Prydain, sef y Cyfreithiwr Cyffredinol, Robert Buckland, wedi dweud bod y Llywodraeth yn wynebu “argyfwng cyfansoddiadol” yn dilyn ymyrraeth John Bercow.