Mae bron i chwarter pobol gwledydd Prydain, 24%, yn teimlo cywilydd yn trafod marwolaeth ac arian gyda’u hanwyliaid.

Daw’r anfodlonrwydd o ganlyniad o letchwithdod yn ôl 20%, a’r ofn o achosi gofid i berson arall i 28%, yn ôl ymchwil gan y brocer yswiriant bywyd, LifeSearch.

Ar ben hynny, tydi 33% ddim yn gallu dioddef trafod rhyw gyda ffrindiau a pherthnasoedd, ac mae 22% yn osgoi trafod gwleidyddiaeth neu grefydd.

Mae’r adroddiad sydd wedi cael ei ryddhau heddiw (Dydd Mawrth, Mawrth 19) yn edrych ar effaith ariannol ac emosiynol mae peidio â siarad gyda’r rhai rydym yn caru am bynciau llosg yn cael ar bobol ar draws gwledydd Prydain.

Dengys yr ymchwil hefyd fod dros chwarter, 27%, wedi cael eu heffeithio gan brofedigaeth.

O’r bobl hyn, mae tua hanner, 48%, wedi cael eu gadael gyda dyledion o rhwng £1,000 a £5,000 am filiau angladd ac ymrwymiadau eraill.

O ganlyniad, mae LifeSearch yn dechrau ymgyrch ‘Beth am Ddechrau Siarad, heddiw er mwyn helpu a rhoi cymorth ar sut allai pobol gwledydd Prydain wella’r ffordd maen nhw’n trafod y pynciau hyn.