Mae teyrngedau wedi’u rhoi i un o’r tri pherson ifanc a fu farw tu allan i ddisgo i ddathlu Dydd Gŵyl San Padrig yng Ngogledd Iwerddon.

Fe fu farw Lauren Bullock, 17, ynghyd a dau fachgen 16 a 17 oed, tu allan i westy Greenvale yn Cookstown, Sir Tyrone tua 9.30yh nos Sul (Mawrth 17).

Mae’n debyg bod cannoedd o bobol wedi bod yn trio mynd i mewn i’r gwesty ar ôl cael eu cludo yno mewn byssus a bod rhai wedi cael eu gwasgu wrth ymyl mynediad yr adeilad.

Bu farw un o’r tri yn y fan a’r lle a’r ddau arall yn yr ysbyty yn ddiweddarach, meddai’r heddlu.

Mae merch 16 oed mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty a chafodd dau berson arall driniaeth yn yr ysbyty yn dilyn y digwyddiad.

Mae ymchwiliad i’r digwyddiad yn parhau, meddai’r heddlu, wrth iddyn nhw asesu lluniau o gamerâu diogelwch. Maen nhw’n apelio am wybodaeth ac yn galw ar bobol ifanc i roi fideos o’r digwyddiad iddyn nhw.

Roedd Lauren Bullock yn aelod o dîm yr Euphoria Allstar Cheerleading NI. Dywedodd aelodau o’r tîm ei bod hi’n berson “prydferth” ac mai hi oedd “asgwrn cefn” y tîm.