Mae cwmni Govia Thameslink Railway (GTR) yn gorfod talu dirwy o £5m am y methiannau a’r oedi a’r diffygion yn y ffordd yr oedd yn cyfathrebu â theithwyr ar adeg cyflwyno amserlen newydd.
Mae’r corff rheoleiddio, Office of Rail and Road (ORR) yn dweud fod GTR “wedi methu rhoi gwybodaeth gywir, addas ac amserol” yng nghanol y trafferthion gyda gwasanaethau Thameslink a llinell y Great Northern am gyfnod o wyth wythnos yn dilyn lansiad swyddogol yr amserlen newydd ym mis Mai, 2018.
Fe gafodd rhai trenau eu tynnu oddi ar yr amerlen yn llwyr, ond chafodd teithwyr ddim gwybod am hyn am nifer o wythnosau, meddai ORR. Fe gafodd trenau eraill eu symud, eu gohirio neu eu canslo yn ddyddiol, ond heb yn wybod i deithwyr.
Mae ymchwiliad i’r hyn ddigwyddodd yn dilyn lansio’r amserlen newydd y llynedd yn dweud hefyd fod y cyfathrebu o fewn cwmni GTR yn ddiffygiol, ac nad oedd gan aelodau staff yn aml ddim digon o wybodaeth er mwyn bod o gymorth i deithwyr.