Bydd Aelodau Seneddol yn pleidleisio yn ddiweddarach tros ohirio ymadawiad y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd.
Yn ôl Llywodraeth y Deyrnas Unedig, mi allai Brexit gael ei ohirio am gyfnod byr, neu am gyfnod hir, yn dibynnu ar gamau nesaf Tŷ’r Cyffredin.
Os bydd Aelodau Seneddol yn cytuno i ymestyn Erthygl 50 ar dydd Iau (Mawrth 14), ac yn cydsynio i gytundeb Theresa May erbyn Mawrth 20, mae disgwyl gohiriad byr.
Ar y llaw arall, os bydd cynrychiolwyr yn galw am ymestyniad ond yn parhau i wrthod cytundeb y Prif Weinidog, byddai’n rhaid gohirio tan Fehefin 30.
“Dw i ddim yn credu mai dyna fyddai’r canlyniad orau,” meddai Theresa May. “Ond mae’n rhaid i’r Tŷ wynebu goblygiadau ei benderfyniadau.”
Y bleidlais gyntaf
Dyma fydd y drydedd bleidlais fawr ar Brexit yr wythnos hon.
Ar dydd Mawrth (Mawrth 12) pleidleisiodd Tŷ’r Cyffredin yn erbyn dêl y Prif Weinidog, ac ar dydd Mercher (Mawrth 13) pleidleisiodd y siambr tros wrthod Brexit heb fargen.
Hefyd, mewn ail bleidlais y ddoe, fe fethodd gwelliant gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a fyddai wedi cadw Brexit heb fargen yn opsiwn.