Mae David Cameron yn rhybuddio Aelodau Seneddol y byddai methu â chael gwared ar y syniad o Brexit heb gytundeb, yn “drychineb” i wledydd Prydain.
Mae’r cyn-Brif Weinidog Ceidwadol yn dweud ei fod yn cefnogi ymdrechion Theresa May i sicrhau dêl – er iddi gael ei churo’n rhacs yn y bleidlais yn San Steffan neithiwr (nos Fawrth, Mawrth 12).
“Dw i wastad wedi cefnogi’r Prif Weinidog yn ei hymdrechion i gael cytundeb clos gydag Ewrop, ac mae’n dal i ennyn fy nghefnogaeth i,” meddai DAvid Cameron.
“Dyna’r peth iawn i’w wneud. Yn amlwg, mae angen cael gwared ar y syniad o ymadael heb gytundeb – fe fyddai hynny’n drychineb i’n gwlad… ac mi fyddai sicrhau estyniad amser, dw i’n siŵr mai dyna fydd yn digwydd nesaf.
“Ac wedyn, dw i’n meddwl y dylai Theresa May fod yn rhydd i ymchwilio opsiynau eraill o ran cytundebau a phartneriaethau er mwyn datrys y broblem hon… allwch chi ddim parhau efo sefyllfa lle mae pobol sydd o blaid Brexit yn pleidleisio yn erbyn y cytundeb.”