Mae’r cyn-weinidog Brexit, David Davis, wedi dweud y bydd yn cefnogi Theresa May a’i chynllun yn y bleidlais yn San Steffan.

Mae’n gam ymlaen enfawr i’r Prif Weinidog i ennyn cefnogaeth Aelod mor amlwg.

Ond dydi hynny ddim yn hanner digon. Mae disgwyl i’w gwrthwynebwyr ei threchu o fwy na 150 fôt.