Mae un o aelodau’r SNP yn San Steffan yn dweud nad yw geiriad dogfennau diweddaraf Theresa May yn ymwneud â Gogledd Iwerddon, yn gwneud synnwyr yn y byd cyfreithiol… ac mai dyna un rheswm pam y bydd hi’n pleidleisio yn erbyn y ddêl heno (nos Fawrth, Mawrth 12).

Yn ôl Joanna Cherry, pe bai hi’n fotio o blaid, byddai’n debygol iawn o gael ei “hongian o’r postyn lamp agosaf’ gartref yn yr Alban.

“Ar wahân i’r ffaith nad yw eich dogfennau newydd, y sicrwydd ynglŷn â’r backstop, yn gwneud synnwyr yn y maes cyfreithiol, mae’r cytundeb hwn yn mynd i wneud drwg go iawn i economi a ffyniant fy ngwlad i.

“Mae’r bobol yn gwybod beth yw’r gwir. Mewn refferendwm arallm fe fyddai’n rheiny sydd am aros yn Ewrop yn siŵr o gario’r dydd.”