Mae Jacob Rees-Mogg wedi cadarnhau wrth asiantaeth newyddion PA y bydd yn pleidleisio yn erbyn dêl Theresa May.

“Dw i’n disgwyl y bydd y mwyafrif o’r ERG (grŵp oddi fewn i’r Ceidwadwyr, European Research Group, y mae’n gadeirydd arno) yn gwneud yr un peth,” meddai.

“Mi fydda’ i’n pleidleisio yn erbyn y llywodraeth. Dw i ddim yn poeni cymaint â hynny os bydd Brexit wedyn yn cael ei ohirio… mae’r gyfraith yn sefyll, ac mae’r gyfraith yn dweud y byddwn ni’n gadael ar Fawrth 29.”