Mae’r cyn-weinidog yn Swyddfa Cymru, Guto Bebb, yn pleidleisio yn erbyn dêl ei arweinydd ei hun yn San Steffan heno.

Wrth siarad â’r BBC, mae’n dweud mai’r backstop a’r pryder ynglŷn â’r ffin galed yng Ngogledd Iwerddon yw’r rheswm tros hynny.

Mae’n poeni hefyd, meddai, bod Prydain yn mynd am “Brexit dall”.

“Beth sydd gynnon ni ydi cytundeb ymadael sydd wedi’i gytuno rhwng y prif weinidog a’r Undeb Ewropeaidd, ond does yna ddim llawer o fanylion am y berthynas,,,” meddai.