Mae’r cyn-Ysgrifennydd Tramor, Boris Johnson, yn dweud fod Theresa May a’i llywodraeth yn San Steffan wedi “methu” wrth geisio trafod dêl gyda’r Undeb Ewropeaidd.

Mewn araith yn Nhŷ’r Cyffredin bnawn heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 12) fe ddisgrifiodd Boris Johnson y Prif Weinidog a’r Twrnai Cyffredinol fel “Adda ac Efa yng Ngardd Eden” yn ceisio gwnio ffedogau o ddail i guddio cywilydd y Deyrnas Unedig, ond yn methu’n ddifrifol yn eu hymdrech.

“Alla’ i ddim derbyn datganiad y Twrnai Cyffredinol fod yna ddim ond risg fechan y bydd Prydain yn cael ei dal yn gaeth o fewn y backstop,” meddai. “Dw i’n meddwl fod y ddêl hon yn ein rhoi ni ar y droed ôl o ran ein perthynas ni â’r Undeb Ewropeaidd wedi Brexit.

“Mae’r ddêl hon bellach wedi cyrraedd pen y lôn,” meddai wedyn. “Dau ddewis sydd – gadael heb ddêl, sef yr unig ffordd ddiogel ac un y gallwn ni gadw ein hunan-barch, neu lôn fydd yn arwain at wneud ffyliaid ohonan ni’n hunain.”