Mae yna ofnau bod nifer o ddringwyr wedi’u dal mewn cwymp eira ar fynydd Ben Nevis yn yr Alban – ond fe ddaeth cadarnhad fod dau ddringwr wedi marw.

Mae hofrennydd ambiwlans awyr a gwylwyr y glannau wedi’u hanfon i’r ardal.

Mae llefarydd ar ran Heddlu’r Alban wedi cadarnhau fod yna ddringwyr ar y mynydd, ond nad yw eu cyflwr na’u safle yn wybyddus eto.

Fe gafodd Gwasaanaeth Ambiwlans yr Alban ei alw toc wedi hanner dydd heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 12), a bod tair ambiwlans wedi’u hanfon i’r mynydd.