Mae’r bygythiad brawychol i’r Deyrnas Unedig o gyfeiriad Gogledd Iwerddon, yn “gymhedrol” – sy’n golygu nad yw ymosodiad yn bosib on ddim yn debygol iawn.

Ond, yn ôl yr adain o fewn MI5 sy’n mesur ac yn asesu’r  bygythiad i Ogledd Iwerddon a’i thrigolion gan frawychiaeth yn ymwneud â Gogledd Iwerddon, mae’r lefel hwnnw yn “ddifrifol”.

Mae’r lefel ar gyfer y Deyrnas Unedig wedi aros yr un fath ers Mawrth 2018, tra bod y bygythiad oddi fewn i’r rhanbarth wedi gwaethygu.

Mae Heddlu’r Met yn Llundain wedi rhybuddio y dylai pobol fod yn wyliadwrus.

Yn ôl y Swyddfa Gartref, mae’r bygythiad i Loegr, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon gan frawychwyr rhyngwladol, yn ddifrifol.