Mae pump o swyddogion wedi’u cael yn euog o gam-drin carcharorion ifanc yn gorfforol, tra’r oedden nhw’n gweithio yn un o ganolfannau cadw mwyaf gwledydd Prydain.

Reodd Heddlu Durham wedi holi 1,676 o bobol fu yn Medomsley Detention Centre, ger Consett, am y ffordd y cawson nhw eu trin yn y ganolfan rhwng 1960au ac 1988.

Mae pum cyn-aelod o staff wedi cael eu dyfarnu’n euog o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus. Yn dilyn cyfres o achosion yn ardal Teesside, mae’r Barnwr Howard Crownson bellach yn caniatau i’r canlyniad gael ei gyhoeddi.

Fe gafodd un carcharor ifanc ei guro gan swyddog wedi iddo geisio dweud wrtho fod swyddog arall – a gafodd ei garcharu am gam-drin rhywiol yn ddiweddarach – wedi ei dreisio yn y gegin. Fe fu swyddog arall yn taflu cerrig at garcharor, ac fe gafodd carcharor ei orchymyn i dynnu ei ddillad isaf a neidio fel cwningen i’r gawod.

Cyfres o achosion 

Mae’r swyddogion wedi bod yn destun Ymchwilias Seabrook ers 2013.

Roedd Christopher Onslow, 72, yng nghofal hyfforddiant corfforol yn y ganolfan rhwng 1975 ac 1985; a John McGee, 74, yn euog o ddyrnu a chodi cywilydd ar garcharorion. Mae’r ddau eisoes wedi cyflwyno apêl yn erbyn yr euogfarn.

Mae Brian Greenwell, 71, wedi’i gael yn euog, ynghyd â Kevin Blakely, 67, a fu’n gweithio yn Medomsley rhwng 1974 a 1983; ac Alan Bramley, 70, a oedd yno am bedair blynedd rhwng 1973 ac 1977.

Fe gafodd dau arall, David McClure, 63, a Neil Sowerby, 62, eu clirio o bob cyhuddiad yn eu herbyn nhw.