Mae gwasanaeth llyfrgelloedd Powys wedi cael blwyddyn i feddwl sut y gall wneud gwerth £200,000 o arbedion.
Bydd yr ymgynghoriad gwreiddiol a ddechreuodd ym mis Chwefror i ofyn am syniadau ar sut i gadw’r deg o’r canghennau llai ar agor, yn parhau er mwyn cael sylwadau pellach a rhoi cyfle i drigolion a chymunedau gyflwyno syniadau.
Bydd yr arolwg hefyd yn cynnwys y chwech o ganghennau mwy o faint a’r gwasanaeth symudol.
Yr wythnos ddiwethaf, pleidleisiodd cynghorwyr Powys o blaid y gyllideb am y flwyddyn nesaf, ond heb orfodi’r gwasanaeth llyfrgelloedd i glustnodi arbedion o £200,000, er y bydd rhaid gwneud hynny’r flwyddyn wedyn.
Hyd yma, mae dros 200 o drigolion wedi ymateb i’r arolwg a thua 300 wedi galw yn y sesiynau taro heibio.