Mae teulu dynes 19 oed fu farw yng Ngorllewin Swydd Efrog yn annog y cyhoedd i beidio â rhoi arian i gronfa sydd wedi’i sefydlu yn ei henw ar wefan GoFundMe.

Bu farw Kelsey Womersley yn dilyn digwyddiad yn Birstall ddydd Gwener (Mawrth 8).

Cafodd tudalen ei sefydlu gan ei ffrindiau, ond mae ei theulu’n dweud nad ydyn nhw’n cefnogi’r gronfa ac na chawson nhw wybod am y dudalen.

Yn y cyfamser, mae merch 17 oed a gafodd ei harestio mewn perthynas â’r digwyddiad wedi’i rhyddhau dan ymchwiliad.