Mar disgwyl i draen (33%) o bobol gwledydd Prydain ddibynnu ar bensiwn y wladwriaeth yn unig, a llai na 9% ar gynllun cadarn ar gyfer eu hymddeoliad.
Oherwydd hyn, mae disgwyl iddyn golli £208 bob mis wedi iddyn nhw ymddeol, neu gyfanswm o £37,440 wrth ystyried oed cyfartalog ymddeol ac oes byw.
Er hynny, mae ymchwil gan Nationwide yn awgrymu y gallai pensiynwr fod ar ei golled o dros £68,000.
Ar gyfartaledd, mae angen o gwmpas £885 y mis ar bensiynwr i fyw arno – £616 ar gyfer biliau angenrheidiol a £269 i’w wario, yn ôl yr holiadur gan Nationwide.
Ond mae’r rheiny sydd yn derbyn pensiwn gan y wladwriaeth yn dweud mai dim ond £505 ar gyfartaledd maen nhw’n ei derbyn.
Er i rai canol oed ddweud bod ganddyn nhw, ar gyfartaledd, £125,350 o ecwiti yn eu cartrefi, fe fydden nhw’n ceisio darganfod ffurf newydd o oroesi cyn rhoi eu dwylo yng nghyfoeth eu tai.
Yn ôl 32%, byddai gwneud hyn ar waelod eu rhestr, gyda 28% yn dweud nad ydynt eisiau gadael unrhyw ddyled i’w teuluoedd.
Doedd chwarter (24%) ddim yn gwybod pwy i droi atyn nhw am gyngor ar eu hymddeoliad.